Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Something Different Wholesale

Gavin-Reid
Uwch Swyddog Portffolio

Graffeg cerrig milltir

Ionawr 2017 – Roedd benthyciad chwe ffigur gan Gronfa Fusnes Cymru wedi helpu’r busnes i ehangu ei safle a’i stoc.

Mai 2020 - Cafodd y cwmni gymorth gan ein Cynllun Benthyciadau Busnes Cymru ar gyfer Covid-19 i ymdopi â heriau’r pandemig.

Mehefin 2023 – Cafodd fenthyciad o £1.2m drwy ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd i osod paneli solar yn ei warws. 

Trosolwg o’r busnes

Sefydlwyd Something Different Wholesale Ltd yn 1999, mae’n un o brif gyflenwyr nwyddau rhodd y DU a lansiodd un o’r gwefannau busnes i fusnes cyntaf ar y rhyngrwyd.

Fel cwmni busnes i fusnes, maen nhw’n dylunio, yn datblygu ac yn dosbarthu nwyddau rhodd i fanwerthwyr ledled y byd o’u warws yn Abertawe. 

Yn ystod pandemig Covid-19, arweiniodd y cynnydd mewn prynu ar-lein ymysg defnyddwyr at dwf cwbl newydd i'r busnes, gyda gwerthiant yn cyrraedd £12.5m ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21.

Sylfaenydd

Jane Wallace-Jones

 

Jane Wallace-Jones, Prif Swyddog Gweithredol - Cyn lansio Something Different Wholesale Ltd, dechreuodd Jane ei thaith mewn nwyddau rhodd drwy agor sawl stondin marchnad ledled de Cymru.

Pwrpas y busnes

O ddylunio, i ddosbarthu, mae Something Different yn darparu rhoddion, ategolion, eitemau addurnol a nwyddau i’r cartref i fanwerthwyr ledled y byd.

Eu pwynt gwerthu unigryw yw nad oes gofyniad archebu sylfaenol, felly mae busnesau’n gallu treialu cynnyrch.

Mae eu tîm creadigol yn dylunio’r cynnyrch, ac mae eu prynwyr yn gweithio’n agos gyda chadwyn gyflenwi ddibynadwy’r cwmni i ddarparu nwyddau unigryw am y prisiau mwyaf cystadleuol.

Heddiw, maen nhw’n cael eu cydnabod fel un o’r mewnforwyr mwyaf yn y DU ar gyfer nwyddau rhodd, gan stocio dros 3,000 o nwyddau a chyflenwi dros 25,000 o gwsmeriaid ledled y byd. 

Cyllid

Development Bank & Something Different Wholesale

 

  • Dyddiad y rownd gyllido fwyaf diweddar: Mawrth 2023
  • Maint: £1.2 miliwn
  • Y gronfa: Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd

Something Different oedd un o’r busnesau cyntaf i elwa ar y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, sy’n helpu busnesau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon. Rydyn ni'n cefnogi nod Llywodraeth Cymru o fod yn sero net erbyn 2050.

Mae Something Different yn defnyddio’r buddsoddiad i osod 2,200 o baneli solar ar ei warysau 158,000 troedfedd sgwâr yn y Parc Menter ar Upper Fforest Way, Abertawe. 

Bydd y systemau ynni solar newydd yn eu helpu i leihau eu biliau ynni ar yr un pryd â bodloni’r galw cynyddol yn fwy cynaliadwy a gwerthu ynni dros ben yn ôl i’r farchnad. 

Mae’r gwaith o osod y paneli newydd yn dilyn uwchraddiad gwyrdd i oleuadau'r cwmni yn 2021. Mae Busnes Cymru yn parhau i weithio gyda Something Different i hyrwyddo eu hymrwymiad i fentrau cynaliadwy gyda Rhaglen Lleihau Carbon.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Rydyn ni’n falch iawn o arwain y ffordd tuag at ddyfodol cynaliadwy i Gymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ein cymuned.

Mae’r gefnogaeth gan y Banc Datblygu yn ein galluogi i gyrraedd ein carreg filltir gyntaf ar y daith wrth i ni chwilio’n barhaus am ffyrdd o greu dyfodol mwy gwyrdd.

Jane Wallace-Jones, Prif Weithredwr, Something Different

Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Something Different Wholesale i roi prosiect ynni cynaliadwyedd sylweddol ar waith gyda chymorth ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o fuddsoddiadau a wnaethpwyd gennym yn Something Different, ac rydyn ni'n falch iawn o weld eu busnes rhyngwladol sy’n cyfanwerthu maes nwyddau rhodd yn ffynnu. Byddwn ni'n parhau i’w cefnogi ar eu taith tyfu gyda chyfrifoldeb amgylcheddol.

Giles Thorley, Prif Weithredwr, Banc Datblygu Cymru