Banc Datblygu Cymru yn cefnogi gwirodydd Cymru

Alun-Lister
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Spirit of Wales

Mae cariad at Gymru ynghyd â diddordeb brwd mewn botaneg, ffrwythau perthi ac eplesu wedi ysbrydoli Daniel Dyer i ddarganfod y grefft o ddistyllu ac agor ei ddistyllfa ei hun yng Nghasnewydd. 

Mae micro fenthyciad cychwynnol o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru wedi cael ei ddefnyddio i ariannu’r gwaith o ddodrefnu a chydosod ‘Spirit of Wales Distillery’ y mae Daniel wedi’i sefydlu i greu ei wirodydd Cymreig dilys sydd wedi ennill gwobrau - ‘Steeltown Welsh Gin, Steeltown Welsh Vodka’ a ‘Dragon’s Breath Spiced Welsh Rum.’ 

Ar ôl dechrau distyllu gwirodydd fel hobi, mae Daniel a’r prif ddistyllydd James Gibbons bellach yn cynhyrchu gwirodydd premiwm fforddiadwy sy’n dathlu eu gwreiddiau Celtaidd a threftadaeth ddiwydiannol Cymru o gynhyrchu dur, mwyngloddio glo, amaethyddiaeth a physgota. Gyda dwy distyllbair Dragon Steel 600 litr, dywed Daniel fod ei angerdd wedi’i ysbrydoli gan bobl Cymru:  

“Roedden ni eisiau creu rhywbeth unigryw a fyddai’n talu teyrnged i’r bobl a’r lleoedd yng Nghymru sy’n ein hysbrydoli. Rydym yn ddistyllfa sy’n cynhyrchu gins Cymreig crefftus, fodca a rymiau mewn sypiau bach. 

“Dechreuon ni yn ein distyllfa gyda chynfas gwag i greu ein gofod lle rydyn ni’n creu blasau sy’n talu teyrnged i’r diwydiannau dur, glo a mwyngloddio a adeiladodd Cymru. Mae poblogrwydd ein siop ar-lein eisoes yn tyfu ac rydym wedi dechrau croesawu ymwelwyr i’r ddistyllfa fel y gallant gael taith brofi a sesiwn flasu. 

“Mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi golygu ein bod ni wedi rhoi’r busnes ar waith a nawr gallwn ganolbwyntio ar gynyddu ein ryseitiau a’n cyfuniadau o flasau Cymreig er mwyn i ni allu ffynnu yn y tymor hir.” 

Trefnwyd y micro-fenthyciad ar gyfer Spirit of Wales gan Alun Lister o Fanc Datblygu Cymru. Ar ôl ymuno â’r Banc Datblygu am y tro cyntaf yn 2014, mae bellach yn helpu cwsmeriaid i gael mynediad at ficro-fenthyciadau hyd at £50,000. Meddai Alun: “Ein gwaith ni yw ei gwneud hi’n haws i fusnesau a mentergarwyr fel Daniel i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu. Mae angerdd Daniel dros ddistyllu a’i gariad at Gymru yn golygu ei fod wedi creu brand cyffrous a gwirodydd sy’n blasu’n wych.” 

Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £30 miliwn yn cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda thelerau ad-dalu yn amrywio rhwng blwyddyn a deng mlynedd.