Space Forge

Mark-Bowman
Rheolwr Cronfa Fentro

Mae gweithgynhyrchu’n y gofod wedi bod yn ffocws i mi ers blynyddoedd lawer. Mae'r hyn y mae Space Forge yn ei wneud i gau'r ddolen werth ar gyfer gweithgynhyrchu yn y gofod a dychwelyd cynnyrch yn rhyfeddol. Gallai’r dull hwn newid y byd i’r diwydiant hwn.

Dylan Taylor, Cadeirydd

Mae cwmni newydd o Gymru yn bwriadu symud ei waith gweithgynhyrchu oddi ar y blaned, gyda'r gobaith o gynhyrchu deunyddiau yng nghylchdro’r ddaear / orbit na ellir eu gwneud ar y Ddaear.

Mae gan Space Forge, o Gaerdydd, weledigaeth i harneisio pŵer y gofod trwy weithgynhyrchu cynhyrchion perfformiad uchel sy'n amhosibl eu cynhyrchu ar y Ddaear, gan weithio i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon deuocsid.

Mae'r micro ddisgyrchiant parhaol a geir ddim ond yn y gofod yn galluogi i filiynau o aloion newydd gael eu creu, rhywbeth a oedd yn flaenorol allan o gyrraedd dynoliaeth. Trwy ddod â nhw yn ôl i'r Ddaear gallai'r aloion hyn chwyldroi diwydiannau ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth a chyfrifiadura.

Felly, o weithio allan o garej i ddatblygu i fod y busnes technoleg gofod sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop, sut wnaeth Space Forge lansio?

Dechrau chwyldro diwydiannol glân

Andrew

Ffurfiwyd Space Forge yn 2018 tra bod y cyd-sylfaenwyr Andrew Bacon a Josh Western yn gweithio yn Thales Alenia Space ym Mryste. Roedd y pâr wedi bwriadu rhoi’r gorau i’w swyddi ym mis Mawrth 2020, ond cafodd eu cynlluniau eu taro gan y tonnau cyntaf o Covid-19.

Fodd bynnag, nid wnaeth hyn yn eu hatal rhag bwrw ymlaen â'u nodau. Roedd Space Forge yn anelu at arwain "chwyldro diwydiannol glân newydd" trwy harneisio amodau unigryw'r gofod. Ceisiodd y cwmni ddatblygu lloerennau y gellir eu dychwelyd yn llawn sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gweithgynhyrchu 'uwch ddeunyddiau' y genhedlaeth nesaf yn y gofod gan gynnwys aloion, meddyginiaethau a lled-ddargludyddion newydd.

Y gobaith yw y bydd y dechnoleg bellgyrhaeddol hon yn y pen draw yn galluogi gweithgynhyrchu yn y gofod i fod yn opsiwn ymarferol a fydd yn helpu i greu cymdeithas lân fodern, a lleihau allyriadau carbon byd-eang yn sylweddol. Byddai’r lloerennau’n cael eu peiriannu gyda’r blaned mewn golwg hefyd, gyda’r lloerennau cyntaf erioed y gellir eu hailddefnyddio y gellir eu hadnewyddu a’u lansio eto, yn hytrach na llosgi yn yr atmosffer.

Dywedodd Josh: "Mae'r ddaear yn lle eithaf gwael o ran gwneud pethau. Mae awyrgylch y ddaear yn drwchus, mae’r tymheredd a’r disgyrchiant cyson yn ein pwyso i lawr sy’n golygu ein bod bob amser yn brwydro yn erbyn yr amgylchedd naturiol. Yn y gofod nid yw hynny'n broblem.

“Erbyn diwedd y ddegawd bydd pawb yn y DU yn defnyddio rhywbeth sydd wedi’i wneud yn y gofod yn eu bywydau bob dydd, ond mae’n debyg na fyddant yn sylweddoli hynny.”

Er mwyn galluogi i’r gwaith chwyldroadol hwn i ddechrau, roedd Space Forge yn bwriadu datblygu gwasanaeth o’r radd flaenaf gan gynnwys lansio a dychwelyd dosbarth bach newydd o gerbyd – y ForgeStar – y gellir ei ddefnyddio o lanswyr confensiynol i ddarparu gwasanaeth seilwaith cyflym, dibynadwy ac ail ddefnyddiadwy yn y gofod.

Er mwyn dilyn eu hamcanion, byddai angen cyllid sylweddol arnynt gan fuddsoddwyr a gredai yn eu gweledigaeth.

Buddsoddiad cyllid sbarduno sydd wedi torri record

Ym mis Mai 2020, sicrhaodd Space Forge becyn cyllid o £600k gan Fanc Datblygu Cymru, ochr yn ochr â Bristol Private Equity Club ac Innovate UK.

Helpodd y cyllid y cwmni i barhau i ddatblygu eu lloeren gweithgynhyrchu aml dro, cynyddodd eu galluoedd, ac adeiladu ar gynlluniau partneriaeth y DU ac Ewrop.

Yn ogystal, daeth y cwmni â 10 aelod o staff newydd i'r tîm i ddatblygu'r prosiect lloeren i safle lansio prawf. Ym mis Medi 2021, symudodd Space Forge ei ganolfan weithgynhyrchu o Gasnewydd i Gaerdydd.

Dywedodd Josh: “Roedd yn anhygoel derbyn y cyllid hwn ar adeg mor dyngedfennol i’n cwmni. Fe helpodd y ddau fuddsoddiad ni i greu swyddi yn ein technolegau allweddol ar draws ein canolfan yng Nghymru a’n hyb dylunio ym Mryste.

“Fe helpodd ni i gyflymu datblygiad technolegau hanfodol a chynnal profion allweddol. Roedd angen cymaint o gefnogaeth â phosib arnom.”

Ym mis Gorffennaf 2021, cododd Space Forge rownd sbarduno am swm nas datgelwyd. Gyda chyfranogiad gan enwau mawr yn y diwydiant gofod, tîm ymroddedig, ac ehangu i farchnad yr Unol Daleithiau - roedd Space Forge yn edrych yn barod i ddod yn chwaraewr blaenllaw yn y diwydiant.

Dywedodd Dylan Taylor, Prif Weithredwr a Chadeirydd Voyager Space Holdings: “Mae gweithgynhyrchu’n y gofod wedi bod yn ffocws i mi ers blynyddoedd lawer. Mae'r hyn y mae Space Forge yn ei wneud i gau'r ddolen werth ar gyfer gweithgynhyrchu yn y gofod a dychwelyd cynnyrch yn rhyfeddol. Gallai’r dull hwn newid y byd i’r diwydiant hwn.”

Defnyddiodd Space Forge y cyllid i gymryd y camau nesaf tuag at lansio a dychwelyd ForgeStar am y tro cyntaf. Ar ben hynny, roeddent yn gallu adeiladu llwyfannau gweithgynhyrchu pwrpasol o'r enw ForgeStars, tra'n rhedeg gweithdrefnau diweddeb uchel y gellir cynyddu eu graddfa yn gyflym i gannoedd o kgs (gyda'r targed o raddio i filoedd o kgs) heb fod angen gofodwyr yn eu lle ar gyfer y broses weithgynhyrchu.

Byddai graddfa a diweddeb uchel i ateb y galw cynyddol am y deunyddiau newydd hyn yn y gofod yn arwain y cwmni at lwyddiant yn y pen draw.

Ym mis Rhagfyr 2021, caeodd Space Forge rownd sbarduno fwyaf erioed Ewrop ar gyfer cwmni technoleg ofod, gan godi $10.2 miliwn. Cyrhaeddodd y rownd bedair gwaith y targed gwreiddiol gyda buddsoddiad yn dod o bob rhan o'r byd.

Rhoddodd y model busnes gyfle i'r cwmni nid yn unig i gynhyrchu deunyddiau yn y gofod, ond hefyd y gallu i ddychwelyd y deunyddiau hynny o orbit heb ddefnyddio capsiwl - a fydd yn gwella nodweddion dychwelyd o'r gofod a chynorthwyo gyda'r gwaith adnewyddu.

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae’r Banc Datblygu yn falch o fod yn bartner buddsoddi cychwynnol i Space Forge a gefnogodd y tîm o’r cychwyn cyntaf i yrru ei uchelgeisiau twf.

“Roedd y buddsoddiad hwn yn cynrychioli sut y gellir harneisio DeepTech ar gyfer cymwysiadau byd-eang tra’n dod â ni’n agosach at ddyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy.”

Mae Space Forge wedi cymryd camau enfawr yn ystod y ddwy flynedd ers hynny, gan ddatblygu o fod yn fusnes yn dechrau o’r newydd oedd â dim ond esgyrn moel ac yn gweithredu o garej i dîm o tua 35 o aelodau yn gweithio yn ei gyfleuster diwydiannol.

Lansiad hanesyddol yng Nghernyw

Misson

Ym mis Ionawr 2023, lansiodd Space Forge ei loeren ForgeStar-0 ar daith Start Me Up Virgin Orbit yng Nghernyw, sef y lansiad cyntaf erioed i’w gynnal yma yn y DU.

Y lloeren hon yw llwyfan lloeren dychwelyd ac ailddefnyddiadwy cyntaf y byd i ganiatáu i ddynoliaeth harneisio pŵer micro ddisgyrchiant, a allai drawsnewid gweithgynhyrchu am byth.

Roedd lloeren ForgeStar-0, a gymerodd bum mis i'w hadeiladu, wedi'i hintegreiddio i system lansio Virgin Orbit. Bwriad y lansiad oedd profi'r defnydd o darian ail fynediad perchnogol Space Forge, cyn y cynhelir teithiau gweithredol yn y dyfodol.

Ar ôl cychwyn o Gernyw, hedfanodd yr awyren Virgin Orbit i 35,000 troedfedd dros Gefnfor yr Iwerydd lle gyrrodd y roced yn cynnwys naw lloeren fach tuag at y gofod. Fodd bynnag, dywedodd trefnwyr y daith Start Me Up fod y roced - gydag amrywiaeth o geisiadau sifil ac amddiffyn - wedi methu ag orbitio.

Wrth ryddhau datganiad, dywedodd Joshua Western, Sylfaenydd Space Forge: “Rydym yn gwneud y pethau hyn nid oherwydd eu bod yn hawdd ond oherwydd eu bod yn anodd. Yn anffodus, ni lwyddodd cenhadaeth Start Me Up Virgin Orbit i gyrraedd orbit. Ar y bwrdd yr oedd ForgeStar-0, lloeren gyntaf Cymru.

"Rwy'n hynod falch o'r hyn a gyflawnodd Space Forge. Fe wnaethon ni ddylunio, adeiladu a chymhwyso lloeren mewn pum mis. Llwyddodd ForgeStar-0 i basio pob prawf tir a dilysiad y gwnaethom ei daflu ato.

“Mae ein poen yn cael ei rannu ar draws y llwythi tâl eraill, y tîm yn Spaceport Cornwall, a Virgin Orbit.”

Beth yw'r dyfodol?

Ar ôl dod mor agos at gyrraedd orbit gyda lloeren ForgeStar-0, mae Western wedi nodi bod cenhadaeth nesaf Space Forge, ForgeStar-1, bron â chael ei chwblhau.

Wrth gyhoeddi'r newyddion mewn datganiad, dywedodd Western: "Byddwn yn ei lansio yn ddiweddarach eleni. Mae'n genhadaeth llawer mwy cyrraeddadwyalluog, sef arddangosiad o weithgynhyrchu yn y gofod, a'n hymgais dychwelyd cyntaf."

"Ni lwyddodd y lansiad. Ond roedd yn dal yn ddigwyddiad cwbl anhygoel. Am y tro cyntaf erioed, cododd roced o'r DU. Hanes y diwydiant gofod yw hanes sector sy'n dysgu o fethiannau sydd ar flaen y gad ym myd technoleg. Ni ddywedodd neb erioed y byddai pethau'n hawdd, ond mae pawb yn dweud y bydd yn werth chweil. Byddwn yn parhau i gefnogi lansiad o'r DU a bydd platfform ForgeStar yn lansio o'r fan hon.

“Byddwn yn gwisgo bathodyn cenhadaeth ForgeStar-0 gyda balchder yn yr hyn a gyflawnwyd gennym.”