Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Buddsoddiad ecwiti

Gall cael y buddsoddiad cywir drawsnewid eich busnes; edrychwch sut y gallwn helpu eich busnes i ddechrau neu dyfu gyda chyllid ecwiti.

Beth yw buddsoddiad ecwiti?

Mae ariannu trwy gyfrwng ecwiti yn golygu codi cyfalaf gan fuddsoddwyr sy'n cymryd cyfran yn eich busnes am arian parod. Yn wahanol i gymryd benthyciad nid oes angen ad-daliadau misol.

Gellir defnyddio cyllid ecwiti ar draws cylch bywyd busnes. Gall ddarparu cyllid sbarduno i gwmnïau technoleg newydd, cyfalaf twf ar gyfer busnesau sefydledig, a chefnogi timau rheoli wrth brynu busnes. Mae'n fath amlbwrpas o gyllid y gellir ei ddefnyddio ochr yn ochr â benthyciadau.

Dysgwch fwy am ecwiti yn ein post blog Beth yw cyllid ecwiti a sut mae'n gweithio?

 

Beth yw manteision ariannu ecwiti?

Mae yna nifer o fanteision i gyllid ecwiti:

  • Bydd buddsoddwyr yn dod â gwerth ychwanegol ar ffurf arbenigedd, gwybodaeth a chysylltiadau i helpu i yrru eich busnes yn ei flaen
  • Creu gwerth hirdymor
  • Rhwymedigaeth ad-dalu 
  • Mae'n eich galluogi i fanteisio'n gyflym ar gyfleoedd y gallech eu colli fel arall drwy hunan-ariannu eich busnes

 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ecwiti a dyled?

Mae cyllid dyled ar gael mewn amrywiol ffurfiau, ond yn ei hanfod mae’n golygu benthyca cyfandaliad, y byddwch wedyn yn ei dalu’n ôl dros amser ynghyd â swm llog y cytunwyd arno. Mae nifer o wahaniaethau allweddol rhwng dyled a chyllid ecwiti, gan gynnwys ad-dalu, perchnogaeth, sicrwydd, a’r broses codi arian. Darganfyddwch fwy am sut mae'r mathau hyn o ariannu yn cymharu trwy ddarllen ein post blog, Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ecwiti a dyled?

 

 

Cwestiynau allweddol

Meithrin perthnasoedd hirdymor - rydym yn darparu cyfalaf amyneddgar i gyflymu cynlluniau twf ac rydym yn fuddsoddwyr dilynol gweithredol i gefnogi twf pellach. Bydd ein hawydd i ddarparu cyllid dilynol yn cael ei ddylanwadu gan berfformiad y cwmni yn erbyn y cerrig milltir a nodir yn y cynllun busnes gwreiddiol. Byddwn yn ystyried ffactorau sydd y tu allan i reolaeth y rheolwyr, ond mae'n bwysig bod mor realistig â phosibl yn eich cynllun busnes cychwynnol.

Cyfranddaliwr lleiafrifol - nid ydym yn ymwneud â rhedeg y busnes o ddydd i ddydd ond byddwn yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd bwrdd misol fel sylwedyddion bwrdd a bydd gennym hawliau cydsynio ar gyfer rhai materion i amddiffyn ein sefyllfa.

Dull gweithredu partneriaeth – byddwn yn treulio amser gyda’r tîm rheoli cyn-buddsoddi i ddeall y cynllun busnes, yr amgylchedd a chyfleoedd masnachol, eich tîm, a’r strategaeth twf.

Proffesiynol a diwyd - byddwn bob amser yn ymgymryd â diwydrwydd dyladwy fel rhan o'n proses fuddsoddi, a all gwmpasu cyllid, rheolaeth, masnachol a chyfreithiol. Byddwn yn gwneud rhywfaint o hyn yn fewnol, ond efallai y byddwn yn defnyddio arbenigedd allanol pan fo angen.

Cydweithredol - rydym yn alinio â chyfranddalwyr eraill i ysgogi gwerth ar gyfer ymadael a dod â'n profiad o weithio gyda chwmnïau twf i'r bwrdd.

Cyd-fuddsoddwyr gweithredol – Ar gyfer busnesau cyfnod cynnar, rydym bob amser yn ceisio cyd-fuddsoddi â phartneriaid ecwiti eraill, gan mai un o nodau’r Banc Datblygu yw denu cyllid o’r sector preifat i Gymru. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r partner cyd-fuddsoddi drwy’r broses, yn aml yn rhannu diwydrwydd os yw’n ymarferol, tra’n cynnal ein proses benderfynu a’n hawliau cydsynio ein hunain. Yr eithriad i hyn yw'r Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion, sy'n oddefol. Gyda buddsoddiadau o'r gronfa hon byddwn yn dilyn penderfyniadau buddsoddi'r prif fuddsoddwr angel, yn ddarostyngedig i reolau cymhwyster. 

Gwerth ychwanegol - Ar ôl buddsoddi, rydym yn cefnogi cynllunio creu gwerth ac mae gennym swyddog portffolio penodedig a fydd yn gweithio gyda'ch busnes i'ch cyflwyno i'n rhwydweithiau a busnesau portffolio eraill.

Byrddau a llywodraethu cadarn - Byddem yn ceisio cryfhau eich bwrdd trwy recriwtio cyfarwyddwr anweithredol allanol, ond byddem yn ceisio dod o hyd i ymgeisydd addas gyda'r cyfranddalwyr a chyfarwyddwyr eraill i sicrhau eu bod yn dod â gwerth ychwanegol a'u bod yn cyd-fynd yn ddiwylliannol dda. Mae gennym gronfa ddata fewnol o gyfarwyddwyr anweithredol yr ydym yn ei chynnal, ond rydym hefyd wedi defnyddio asiantaethau recriwtio allanol a rhwydweithiau eraill, gan gynnwys rhwydwaith y tîm rheoli.

Mae nifer o fanteision i gyllid ecwiti:

  • Bydd buddsoddwyr yn dod â gwerth ychwanegol ar ffurf arbenigedd, gwybodaeth a chysylltiadau i helpu i yrru eich busnes yn ei flaen
  • Gall fod yn ffordd effeithiol o alluogi twf cyflymach a chreu gwerth hirdymor
  • Nid oes unrhyw rwymedigaeth ad-dalu
  • Mae'n eich galluogi i fanteisio’n gyflym ar gyfleoedd y gallech eu colli fel arall drwy hunan-ariannu eich busnes

Banc Datblygu Cymru yw un o'r buddsoddwyr ecwiti mwyaf gweithgar yn y DU.* Oherwydd y cronfeydd rydyn ni'n eu rheoli rydyn ni'n gallu darparu cyllid ecwiti o gyllid sbarduno yr holl ffordd i olyniaeth busnes. Mae gennym dimau ecwiti arbenigol sy'n arbenigwyr ar ddarganfod a chydweithio â chyd-fuddsoddwyr eraill. Rydym hefyd yn gallu darparu pecynnau ecwiti a benthyciadau pwrpasol i ddiwallu eich anghenion busnes.

Ein rhwydwaith

Gyda ni fel buddsoddwr ecwiti, byddwch yn cael mynediad at y gefnogaeth, yr arbenigedd a'r arweiniad sydd eu hangen ar eich busnes yn gyflym, gan gynnwys:

  • Rhwydwaith buddsoddwyr o ansawdd uchel o dros 250 o angylion busnes
  • Cynlluniau hyfforddi rheolwyr
  • Mynediad at wasanaethau ymgynghori arbenigol i helpu i gyflymu eich twf
  • Atgyfeiriadau at wasanaethau cymorth busnes fel Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru
  • Cronfa ddata o gyfarwyddwyr anweithredol profiadol i'ch helpu chi i gryfhau'ch bwrdd
  • Cyflwyniadau i arbenigwyr cyllid fel cynghorwyr cyllid corfforaethol a chyfarwyddwyr cyllid

Cynllun creu gwerth

Rydym yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun creu gwerth a strategaeth ymadael, sydd â'r nod o sicrhau'r gwerth mwyaf posibl i'r holl gyfranddalwyr dros amser.

Rhannu arfer gorau

Rydym yn eich helpu i ddatblygu llywodraethu da a chael y gorau o'ch bwrdd. Rydym yn gweithio gyda BBaCh ar draws llawer o wahanol sectorau a gallwn eich cysylltu â busnesau eraill i rannu arfer gorau a datblygu perthnasoedd masnachol.  

Digwyddiadau

Mae ein digwyddiadau unigryw yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu chi i ddatblygu'ch busnes, yn ogystal â'r cyfle i rwydweithio gydag arbenigwyr a mentergarwyr eraill.  

Un ffynhonnell o gyllid ecwiti yw buddsoddiad angel. Yn nodweddiadol mae angylion yn unigolion gwerth net uchel sy'n defnyddio eu harian eu hunain i fuddsoddi mewn cwmnïau sydd â photensial twf cryf. Gallwch ddarganfod mwy am fuddsoddi angel yn ein blog, Be’ ydi buddsoddi angel?

Rhan o Fanc Datblygu Cymru yw Angylion Buddsoddi Cymrue, y rhwydwaith angylion mwyaf yng Nghymru.

Mae ein darpariaeth cyllid busnes yn cael ei gyfeirio gan chwe egwyddor buddsoddi graidd. Rydym yn canolbwyntio ar annog busnesau a chyd-fuddsoddwyr i gymryd camau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad economaidd Cymru. Rhaid i'n gweithgaredd leihau dadleoli a sicrhau enillion economaidd - yn gymdeithasol ac yn ariannol. Darganfod mwy.

Be' nesaf?

Am drafod ecwiti ymhellach? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni. 

Cysylltu â ni