COP 27 – Banc Datblygu Cymru yn amlinellu ymrwymiad parhaus i ddyfodol gwyrddach

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Busnesau technoleg

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym am ddod ag uchelgeisiau yn fyw a thanio posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

Ein cenhadaeth yw datgloi potensial economi Cymru drwy gynyddu’r ddarpariaeth o gyllid cynaliadwy ac effeithiol yn y farchnad.

Fel chwaraewr allweddol yn economi Cymru, gallwn gael effaith wirioneddol ar sut mae ein gwlad yn gwneud busnes.

Mae digwyddiadau fel COP27 ac Wythnos Hinsawdd Cymru yn ein hatgoffa ni i gyd ynghylch pwysigrwydd gwneud y newidiadau y gallwn ni i gyfyngu ar ein heffaith ar yr amgylchedd - ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n gweledigaeth ni, a gweledigaeth Llywodraeth Cymru, o gael Cymru sy’n fwy gwyrdd, tecach a mwy cynaliadwy.

Mae potensial Cymru wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn. Rydym yn cefnogi busnesau sy’n gallu cyfrannu’n ariannol, yn gymdeithasol, yn foesegol ac yn amgylcheddol i’n cymunedau a’r byd ehangach.

Mae ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ACLl) yn rhan annatod o’n penderfyniadau pan ddaw’n fater o fuddsoddi – ac rydym am wneud yn siŵr bod yr effaith a gawn ar ddyfodol Cymru yn fwy nag un ariannol yn unig.

A gwyddom, er ein bod wedi gwneud cynnydd da yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fod mwy y gallwn ei ddysgu a'i wneud o hyd.

Rydym yn parhau ar y trywydd iawn i ddod yn sefydliad sero net, a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd pellach o leihau ein hôl troed carbon ein hunain.

Er ein bod yn cydnabod ein rhwymedigaethau, rydym hefyd yn gweld hwn yn gyfnod o gyfle gwych wrth i fusnesau ledled y wlad gymryd eu camau eu hunain tuag at well a mwy o gynaliadwyedd.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi lansiad ein Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd, sy’n lleihau cost benthyca i ddatblygwyr wrth i’r sector adeiladu barhau â’i daith ei hun tuag at sero net, ac annog mwy o gamau tuag at inswleiddio a gwell defnydd o ynni mewn cenhedlaeth newydd o gartrefi Cymreig.

Yn fwy diweddar, fe wnaethom ymuno â Llywodraeth Cymru i gyflwyno ein cynlluniau ar gyfer cynnig datgarboneiddio buddsoddi i arbed, gyda thelerau gwell i fusnesau sydd am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.

Mae busnesau yn cydnabod bod ganddyn nhw rôl i'w chwarae, ond mae angen y cyfalaf arnyn nhw i wneud y buddsoddiad sydd ei angen – a dyna lle rydyn ni'n gallu helpu.

Mae rhai busnesau – fel Gower Electric Bikes ac Avantis – wedi gweld cyfleoedd newydd i ateb anghenion cynaliadwyedd eu cwsmeriaid; boed hynny ar gyfer reidio beiciau trydan o amgylch rhai o olygfeydd harddaf Cymru, neu ddefnyddio technoleg ddeallus i helpu cwmnïau yn y sector morol i ddod yn fwy ynni effeithlon.

Ac yn ddiweddar cyflwynodd darparwyr logisteg trafnidiaeth a rheolwyr cadwyn gyflenwi o Bont-y-pŵl FLS – a gefnogwyd gennym ar ddiwedd 2021 – wasanaeth monitro carbon newydd ar gyfer cleientiaid sy’n archebu cludiant nwyddau.

Y llynedd, ymunodd Angylion Buddsoddi Cymru – ein rhwydwaith buddsoddwyr angylion a’r rhwydwaith angylion mwyaf yng Nghymru – â buddsoddwyr preifat i gefnogi Riversimple, gwneuthurwr ceir hydrogen wedi’i leoli yn Llandrindod, fel rhan o gylch ariannu gwerth £1.5 miliwn.

Ochr yn ochr â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, fe wnaethom gefnogi Gower Power, fferm ynni heulol / solar gyntaf Cymru sy’n eiddo i’r gymuned.

Nod Gower Power Solar Storage yw darparu ynni gwyrdd i gannoedd o gartrefi a busnesau yn ardal Abertawe, tra hefyd yn rhoi'r cyfle iddynt gefnogi prosiectau cymunedol ar lawr gwlad trwy'r gymdeithas budd cymunedol Gower Regeneration Ltd, sy'n berchen ar y fferm heulol.

Dechreuodd y fferm heulol 1MW ar Fferm Killan Fach, Dyfnant, gynhyrchu pŵer yn 2017 a hi oedd y fferm solar gyntaf yng Nghymru sy’n eiddo i’r gymuned, diolch i gefnogaeth buddsoddwyr lleol.

Gyda chefnogaeth y Banc Datblygu, Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru ac ERDF, disgwylir i Gower Power Solar Storage gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy am 25 mlynedd, a darparu gwarged i'r gymuned leol.

Rydym hefyd wedi helpu busnesau hir sefydlog sydd am wneud eu gweithrediadau presennol yn fwy ynni-effeithlon neu'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Mae Fferm Bargoed – maes carafanau, gwersylla a glampio yng Ngheredigion – wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o fesurau gwyrdd, gan gynnwys peiriant byrnu ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu, paneli heulol a phwyntiau gwefru ceir trydan.

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae gennym hanes rhagorol o fuddsoddi mewn busnesau Cymreig wrth iddynt gymryd camau mwy a hirach tuag at ein dyfodol gwyrddach.

“Mae gennym ni opsiynau buddsoddi dyled ac ecwiti ar gael i’r rhai sy’n creu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a fydd yn helpu i leihau allyriadau – ac mae Cymru’n ffodus i fod yn gartref i nifer o fentergarwyr technoleg a busnesau cyfnod cynnar sy’n ein rhoi ar y map.

“Ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid yn Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru i helpu cwsmeriaid i leihau eu heffaith amgylcheddol, gan eu cysylltu â chynghorwyr cynaliadwyedd arbenigol sy’n darparu cymorth ar grantiau, ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd amgylcheddol a’r Addewid Twf Gwyrdd.”