Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Buddsoddiad mewn technoleg - sut ‘allwn ni helpu

Rydym yn fuddsoddwyr blaengar sy'n deall yr heriau o redeg busnes technoleg newydd neu ddeilliant.

Rydyn ni yma i gefnogi mentrau technoleg arloesol mewn amrywiaeth o ffyrdd.

  • Cyfalaf menter cychwynnol (cyllid sbarduno)  gefnogi’r lansiad 
  • Ecwiti i ariannu’r ymchwil cyn-refeniw a’r costau datbygu
  • Cysylltiadau cryf gyda chanolfannau ymchwil prifysgolion, meithrinfeydd rhanbarthol a mynediad at gefngoaeth ychwanegol ar gyfer datblygu busnes yng Nghymru.
  • Cyd-fuddsoddiad o syndicadau, angylion ac unigolion gwerth net uchel. 
  • Cysylltiadau profiadol i gryfhau timau rheoli

Does ots ar pa gyfnod mae eich menter chi, mae gennym ni’r modd a’r cysylltiadau i’ch helpu i gyflawni eich cerrig milltir.

Wrth i fusnesau newydd symud ymlaen tuag at fasnacheiddio, gallwn gynnig cymorth ychwanegol i helpu'r broses:

  • Pecynnau benthyca ac ecwiti i ariannu camau ymchwil a datblygu diweddarach
  • Buddsoddiad dilynol i’ch helpu i gyrraedd cerrig milltir allweddol
  • Cyd-fuddsoddiadau pellach gan syndicadau, angylion a buddsoddwyr sefydliadol sy'n canolbwyntio ar dechnoleg
  • Cysylltiadau profiadol i gryfhau timau a byrddau rheoli

Mae gan ein portffolio nifer o enghreifftiau o gwmnïau sydd wedi symud ymlaen o ddechreuad a ariannwyd gydag arian sbarduno i rownd fuddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd gan gynnwys syndicâd o gyfalafwyr menter.
 

Gallwn gefnogi eich busnes technoleg trwy bob cam - hyd yn oed hyd at (a thu hwnt) i gynnig cyhoeddus cychwynnol (CCC).

Gall chwistrelliad o gyfalaf datblygu neu ehangu roi hwb sylweddol i ragolygon twf eich busnes, gan eich galluogi i:

  • Ariannu costau ymchwil a datblygu
  • Cyflogi personél newydd
  • Cyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd
  • Ehangu i farchnadoedd newydd
  • Datblygu sianeli gwerthu newydd
  • Prynu offer, cyfarpar neu beiriannau newydd
  • Prynu stoc i ateb y galw cynyddol
  • Symud i eiddo mwy
     

Beth yw cyllid sbarduno?

Mae cyllid sbarduno yn fath o gyllid ecwiti a gynigir i gwmnïau sy’n dechrau i'w helpu i fasnacheiddio eu cynhyrchion neu dechnolegau a dod â nhw i'r farchnad.

Rydym yn cynnig cyllid sbarduno drwy fuddsoddiad ecwiti i fusnesau newydd ym maes technoleg sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae ein cyllid yn amrywio o £50,000 i £2 filiwn ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi busnesau newydd, cwmnïau sy’n deillio o brifysgolion, a chwmnïau newydd nes y gallant gynhyrchu ei refeniw ei hun neu godi buddsoddiad pellach.

I wneud cais am y buddsoddiad bydd angen i chi:

  • Fod yn seiliedig yng Nghymru neu'n barod i adleoli
  • Gael cyd-fuddsoddiad
  • Feddu ar gynnig technoleg unigryw wedi'i dargedu at farchnadoedd sy'n tyfu
  • Gael ED cadarn
  • Feddu ar strategaeth fasnacholi glir
  • Gael eich arwain gan dîm rheoli ymroddedig ac angerddol
  • Gael cynllun ymadael
  • Gael cynllun busnes a rhagolygon ariannol tair blynedd.

Rydym ni'n fuddsoddwr 'ymarferol' ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n cwsmeriaid, yn enwedig wrth gryfhau timau rheoli i sicrhau bod ein buddsoddiad yn creu busnes cryfach.

Cyllid ar gyfer busnesau cyfnod cynnar a sefydledig

Fe allwn ni ddarparu benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti i fusnesau technoleg yng Nghymru o £50,000 hyd at £2 filiwn

I ymgeisio am fuddsoddiad bydd angen i chi:

  • Fod yn seiliedig yng Nghymru neu’n barod i adleoli
  • Gael cyd-fuddsoddiad
  • Gynnig technoleg unigryw wedi'i dargedu at farchnadoedd sy'n tyfu
  • Feddu ar ED cadarn
  • Feddu ar strategaeth fasnacholi glir
  • Gael eich arwain gan dîm rheoli ymroddedig ac angerddol
  • Gael cynllun ymadael
  • Gael cynllun busnes a rhagolygon ariannol tair blynedd.

Rydym ni'n fuddsoddwr 'ymarferol' ac rydym yn cydweithio'n agos â'n cwsmeriaid, yn enwedig wrth gryfhau timau rheoli i sicrhau bod ein buddsoddiad yn creu busnes cryfach.

Ein portffolio

AGAM-Internationals
Agxio
Alesi-Surgical
Amplyfi
Antiverse
Aparito
BiVictriX
Calon
Cansense
Carebeans
Ceryx-Medical
Clinithink
Coincover Deer Technology
Deploy
Driverly
Explorage.com Finboot
Forth
Front Grid
Fuel-Active
Glucose Republic
Governance360
Health & Her
Hexigone
Hut Six
Imspex
IQ Endoscopes
Jellagen
LITELOK
Market Dynamics
Momentum Bioscience
Nemesis Bioscience
Ortharize
Project Blu
QLM
Reacta Biotech
Signum
Simply Do Ideas
SmartStorm
Spacebands
Space Forge
Streetwave
Tahdah
Talent-Intuition
Talkative
Trameto
Urban Intelligence
Valident
Wagonex
X4 Software

 

 

Sylfaen gwybodaeth busnes technoleg newydd

Llywio’r dirwedd fuddsoddi fel cwmni newydd ym maes technoleg fod yn her fawr i ddarpar mentergarwyr. I fuddsoddwyr, mae gwerthuso busnesau newydd yn aml yn cael ei ystyried yn fwy o gelfyddyd na gwyddoniaeth bur. Darllenwch ein canllaw ar gyfer 15 o bethau y mae buddsoddwyr yn eu hystyried wrth asesu busnes technoleg sy’n dechrau o’r newydd.

 

Mae ein canllaw cyflwyno cynigion i fuddsoddwyr yn cwmpasu'r tri phrif beth i'w hystyried cyn i chi gynnig: cyflwyno'ch hun, cyflwyno'ch cynnyrch a'r ymchwil y bydd angen i chi ei wneud ymlaen llaw.

Gall cynllun busnes sydd wedi'i ymchwilio'n dda helpu i ddiogelu rhag rhedeg allan o arian parod, peidio â chael y tîm cywir yn ei le a marchnata gwael, sydd i gyd yn ymddangos yn y 10 prif reswm y mae busnesau newydd yn methu. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw pam fod angen cynlluniau busnes o hyd.

 

Mae cyflwyniad cynnig yn arf hanfodol pan fyddwch chi'n codi arian ar gyfer eich busnes newydd.

Yn ei hanfod, mae’n gyflwyniad byr lle rydych chi'n darparu trosolwg o'ch cwmni i fuddsoddwyr, ac, os caiff ei wneud yn dda, bydd yn ennyn eu diddordeb, yn ysgogi sgwrs, ac yn eich gosod ar y llwybr i ennill buddsoddiad ar gyfer eich busnes.

Yn ein canllaw, sy'n cynnwys fideo, rydyn ni'n rhoi rhai awgrymiadau allweddol ac yn dadansoddi'r gwahanol gydrannau o greu cyflwyniad cynnig.

Gall fod yn anodd darganfod faint yw gwerth cwmni, yn enwedig os ydych chi'n fusnes cychwynnol heb fawr ddim data hanesyddol i feincnodi yn ei erbyn. Er nad oes un fformiwla i gyfrifo prisiad, mae'n bosibl pennu gwerth sy'n gwneud synnwyr i chi ac sy'n rhesymol i fuddsoddwyr.

Cymerwch gip ar ein canllaw i roi gwerth ar fusnes technoleg sydd wedi dechrau o’r newydd i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Eiddo Deallusol (ED) yn cyfeirio at greadigaethau'r meddwl, sy'n cynnwys meddwl, creadigrwydd ac ymdrech ddeallusol. Unwaith y caiff ei greu, nid yw perchnogaeth eiddo deallusol fawr yn wahanol i fod yn berchen ar fathau eraill o eiddo mwy diriaethol, yn yr ystyr y gellir ei brynu neu ei werthu neu hyd yn oed ei ddefnyddio fel gwarant yn erbyn dyled.

Mae Hawliau Eiddo Deallusol (HEDau) megis patentau, nodau masnach a hawlfraint yn bodoli i’ch galluogi i ddatgan a diogelu eich perchnogaeth o’r eiddo hwnnw. Maent hefyd yn darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer cymryd camau yn erbyn rhywun arall sy'n ymyrryd ar eich HEDau drwy eu dwyn neu eu camddefnyddio.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw eiddo deallusol ar gyfer busnesau newydd ym maes technoleg.

Cwestiynau Cyffredin a ofynnir ynghylch buddsoddiadau technoleg Banc Datblygu Cymru

Mae gennym dîm buddsoddiadau menter technoleg (BMT) pwrpasol sy'n edrych ar fuddsoddi mewn busnesau newydd ym maes technoleg yng Nghymru.

Cwrdd â'r tîm

Mae'r Banc Datblygu yn fuddsoddwr lleiafrifol - mae hyn yn golygu y byddwn bob amser yn dal llai na 50% o ecwiti'r cwmni (fel arfer yn sylweddol llai na 50%).

Fel buddsoddwr cyfalaf amyneddgar hirdymor, gallwn fuddsoddi rowndiau lluosog yn yr un cwmni o’r cam hadu / sbarduno i Gyfres A. Mae buddsoddiad dilynol yn dibynnu ar gwmni yn cyrraedd y cerrig milltir a nodwyd ar adeg y buddsoddiad.

Rydym yn buddsoddi cyn y cyfnod hadu neu sbarduno drwodd i Gyfres A - prawf ategol o gysyniad hyd at ehangu. Rydym yn nodweddiadol yn buddsoddi rhwng £100,000 a £350K ar gyfer hadau a mwy na £5 miliwn mewn busnesau mwy aeddfed.

Rydym yn sector agnostig ac yn hoffi amrywiaeth. I ni, mae'n ymwneud yn fwy ag ansawdd y cynnig na'r sector.

Mae gennym bortffolio cynyddol o gwmnïau technoleg ar draws ystod o sectorau o'r Gwyddorau Bywyd, Technoleg Ariannol,  TechDwfn, Meddalwedd Menter, Technoleg Meddygol, Rhan-Drawsgludyddion a Meddalwedd fel Gwasanaeth.

Gallwch ddarganfod mwy yn ein hadran portffolio yn gynharach ar y dudalen hon.

Pan fyddwn yn buddsoddi, bydd gennym hawliau buddsoddwyr sydd â’r bwriad o ddiogelu ein sefyllfa drwy roi llais i ni ar nifer o benderfyniadau pwysig. Mae'r hawliau caniatâd hyn yn arferol ar gyfer unrhyw drafodiad ecwiti.

Ar ôl buddsoddi, byddwn yn mynychu cyfarfod y bwrdd fel sylwedydd bwrdd, a gallwn benodi cyfarwyddwr anweithredol (CAn). Mae gan bob CAn gyfrifoldeb ymddiriedol a chyfreithiol i weithredu er lles gorau'r cwmni ac i gynrychioli pob cyfranddaliwr. Penodir y CAn gan y Bwrdd a bydd unrhyw ffi yn cael ei gytuno rhwng y cwmni a'r unigolyn.

Rydym yn darparu opsiynau ariannu hyblyg yn dibynnu ar ofynion y cwmni. Mae cwmnïau cyfnod cynnar nodweddiadol yn seiliedig ar ecwiti; fodd bynnag rydym yn cynnig benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti ar gyfer busnesau mwy sefydledig a chylchoedd ariannu dilynol. Mae'r dull gweithredu hyblyg hwn yn ein galluogi i gefnogi'ch busnes trwy gamau twf amrywiol.

Ydym. Rydym yn cynnig buddsoddiad cyllid sbarduno (ecwiti) i gwmnïau technoleg newydd, cwmnïau sy’n deillio o brifysgolion, a chwmnïau sy’n gyfoethog mewn eiddo deallusol. Mae hyn yn eu helpu i fasnacheiddio eu cynhyrchion a'u technolegau, gan droi syniadau arloesol yn atebion parod i'r farchnad. Ein nod yw cefnogi mentergarwyr â gweledigaeth yn y camau cynharaf, gan ddarparu'r cyllid hanfodol sydd ei angen i roi hwb iddynt ar ddechrau eu taith.

Byddem bob amser yn argymell bod rheolwyr a sylfaenwyr yn cael eu cyngor ariannol cyfreithiol a chorfforaethol annibynnol eu hunain i gynrychioli eu buddiannau.

Mae ein dogfennaeth fuddsoddi yn seiliedig ar safonau diwydiant derbyniol drwy’r Gymdeithas Cyfalaf Menter Prydain ond byddant yn cael eu teilwra i drafodiad penodol lle bo'n briodol.

Be' nesaf?

Eisiau trafod eich menter ymhellach? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni.   

Cysylltu â ni