Manuel Di Campli

Rwy'n gweithio gydag ystod o'n cwsmeriaid i gefnogi eu dyheadau twf, a rwy'n mwynhau adeiladu perthnasoedd llwyddiannus â busnesau a gweithwyr proffesiynol ledled de a gorllewin Cymru. 

Mae'n rhoi llawer o foddhad i mi allu cefnogi busnesau lleol i gyflawni eu huchelgeisiau trwy ddarparu cyllid strwythuredig dilynol.

Ymunais â Banc Datblygu Cymru yn 2021. Cyn ymuno, gweithiais am dros 17 mlynedd ym maes bancio corfforaethol a busnes gyda HSBC.

Mae gen i BA mewn Busnes a Chyllid o Brifysgol Abertawe.